Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gŵyl Ffilm Iris, premier byd-eang offeren goll Caradog Roberts, ail-ddychmygu ein cerddoriaeth draddodiaol

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Mae Ffion yn cael cwmni yr artist Gwynfor Griffiths yn Oriel Môn, Llangefni. Ac yntau yn 91 oed, mae Gwynfor yn dal i greu yn ddyddiol ac mae ganddo arddangosfa yn yr oriel ar hyn o bryd.

Mae adolygiad gan y cerddor Bethan Antur o bremier byd-eang o Offeren ddarganfuwyd yn ddiweddar wedi ei chyfansoddi gan y cyfansoddwr o Rhosllanerchrugog, Caradog Roberts, ac a gafodd ei pherfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy’n ddiweddar.

Sgwrsio am brosiect creadigol newydd sy'n ail-ddychmygu cerddoriaeth draddodiadol Cymru mae'r trwmpedwr Tomos Williams.

Ac mae sylfaenwydd a chyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris, Berwyn Rowlands, yn galw heibio i drafod Gŵyl Iris 2025, yn ogystal ac edrych ymlaen at nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu y flwyddyn nesaf.

56 o funudau

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Cymdeithas Gorawl a Cherddorfa Gogledd Cymru

    Offeren - Agorawd

  • Khamira

    Y Gwydd

    • Khamira.
    • 6.

Darllediadau

  • Sul 5 Hyd 202513:00
  • Llun 6 Hyd 202518:00