Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Afon Cleddau: Pennod 3

Jon Gower ac Elinor Gwynn sy'n crwydro glannau'r Afon Cleddau Ddu. Jon Gower and Elinor Gwynn roam the banks of the river Cleddau Ddu.

Gan gychwyn wrth Gei Landshipping mae Elinor Gwynn a Sian Elis yn ein tywys ni drwy hanes trychineb glofaol yn Landshipping yng nghanol y 19eg ganrif. Stori ddirdynnol sydd wedi mynd yn angof.
Mae Elinor a Jon wedyn yn crwydro drwy goedwig Lawrenny ac mae Andrew Green yn rhoi hanes dylanwad dwfn yr ardal ar yr artist Graham Sutherland - a roddodd ei waith i Gymru ac a fu mewn arddangosfa barhaol yng Nghastell Picton am flynyddoedd.
Yna llam a naid at y Dderwen Gam sydd rhyw filltir o Gapel Millin lle byddai'r bardd Waldo Williams yn aml yn pendwmpian dros nos er mwyn mynd at y Dderwen Gam ar doriad gwawr.
Crwydro wedyn ar hyd yr afon Cleddau Ddu hyd at le digon cudd sef lleoliad Capel Rhydwilym. Cyfle yng nghwmni Hedd Ladd Lewis i glywed am sefydlu'r achos anghydffurfiol yn Rhydwilym a sut yr erlidiwyd yr aelodau cynnar. Ychydig o Ganu Pwnc yn sŵn yr afon.
Lefi Dafydd - cerddor, cerddwr ac ysgolhaig ifanc o'r ardal sydd yn rhoi blas i ni o enwau llednentydd a darnau o'r tirlun wrth swatio ger tarddle'r afon.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Medi 202516:00

Darllediad

  • Sul 28 Medi 202516:00