Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwlân Prydain yn 75 oed

Gareth Jones o Gwlân Prydain a chyn-gadeirydd y Bwrdd Gwlân, Alun Evans sy'n nodi'r achlysur. Gareth Jones and Alun Evans celebrate 75 years of British Wool.

I nodi pen-blwydd cwmni Gwlân Prydain yn 75 oed, Gareth Jones o'r cwmni sy'n trafod y dathliadau, ac Alun Evans, cyn-gadeirydd y Bwrdd Marchnata Gwlân, sy'n hel atgofion am ddyddiau cynnar y cwmni.

Hefyd, gyda gwobrau blynyddol y Farmers Weekly yn cael eu cynnal yr wythnos yma, sgwrs gyda dau o'r Cymry sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, Huw Jones o'r Ferwig ger Aberteifi, a Ben Edkins o Gilcennin ger Aberaeron.

Clwb Ffermwyr Ifanc y mis yw CFFI Godre'r Eifl yn ffederasiwn Eryri, ac un o'r aelodau, Rhodri Jones, sy'n sôn am y clwb a'i weithgareddau.

Megan Williams sydd â rhagolygon y tywydd am y mis i ddod, a Chyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Medi 202515:30

Darllediadau

  • Sul 28 Medi 202507:00
  • Sul 28 Medi 202515:30