Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pigion y Sioe Fawr 2025

Terwyn Davies sy'n cyflwyno pigion o sgyrsiau o Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni. Terwyn Davies presents highlights of this year's Royal Welsh Show in Llanelwedd.

Terwyn Davies sy'n cyflwyno pigion o sgyrsiau o Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni.

Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda rhai o brif enillwyr cystadlaethau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni, gan gynnwys y darlledwr Dei Tomos, enillodd wobr cyfraniad oes gan y gymdeithas.

Sgwrs hefyd gyda Laura Jones o gwmni hufen iâ Llaeth Llanfair o Lanbed sy'n arddangos yn y Neuadd Fwyd am y tro cyntaf, ac Eirlys Jones o Gas-blaidd, Sir Benfro yn sôn am feirniadu yn adran y defaid am y tro cyntaf.

Megan Williams sy'n sgwrsio gyda Phrif Weithredwr S4C, Geraint Evans am Wobr Goffa Dai Jones Llanilar, ac Aled Wyn Davies sy'n rhannu'r profiad o fod yn rhan o hysbyseb newydd ar gyfer cwrw'r cyflwynydd Jeremy Clarkson.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 27 Gorff 202515:30

Darllediadau

  • Sul 27 Gorff 202507:00
  • Sul 27 Gorff 202515:30