Main content

Cennydd Davies yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Trafod penderfyniad dadleuol llywodraethau Iwerddon, Norwy a Sbaen i gydnabod yn ffurfiol Palestina fel gwladwriaeth swyddogol; a Catrin Asbrey ac Elan Ial Jones sy'n trafod manteision ac anfanteision cyflwyno patrwm gweithio pedwar niwrnod, 32 awr, i’r gweithle.
Hefyd, sgwrs gydag Alun Gibbard sydd newydd ei benodi'n Gadeirydd Pwyllgor Cymru o Gymdeithas Awduron Prydain; ac wrth i Jürgen Klopp adael Clwb Pêl-droed Lerpwl, Dr Carwyn Jones sy'n trafod y berthynas seicolegol rhwng y rheolwr a'i chwaraewyr, gan ystyried i ba raddau y gwnaeth hynny arwain at lwyddiant.
Darllediad diwethaf
Maw 28 Mai 202413:00
BBC Radio Cymru
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Maw 28 Mai 202413:00BBC Radio Cymru