
Men Up, Dan y Wenallt, Miwtani Bach a Canfas
Sgwrs gyda chyfarwyddwr y ddrama 'Men Up', Ashley Way a sylw i'r prosiectau celfyddydol Miwtani Bach a Canfas. A look at the arts scene in Wales and beyond with Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni y cyfarwyddwr Ashley Way fu'n gweithio ar ddrama ddiweddar 'Men Up' ddarlledwyd ar BBC Cymru dros gyfnod y Nadolig.
 hithau'n 70 mlynedd ers darlledu Dan y Wenallt am y tro cyntaf, mae'r actor Gwion Morris Jones yn sgwrsio am brosiect mae wedi bod yn gysylltiedig ag ef ar gyfer BBC Radio 3 yr wythnos nesaf, lle mae awdur gwahanol bob dydd wedi diweddaru'r ddrama radio ar gyfer 2024.
Y cysylltiad rhwng y byd busnes â'r byd celfyddydol sydd yn mynd â sylw Sioned Morgan fel arweinydd prosiect o'r enw 'Miwtani Bach', tra bod Alaw Llwyd Owen a Malan Fôn Jones yn trafod prosiect creadigol o gwmpas tref Caernarfon o'r enw 'Canfas'.
Ac yna i gloi, mae'r llenor Gareth Evans-Jones yn sôn am weithdy ysgrifennu creadigol sydd yn cyflwyno ac archwilio Hanes LHDTC+.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Johns' Boys
Calon Lân
- Simply biblical.
- Johns' Boys.
- 1.
![]()
Dafydd Hedd
Rocstar
- Bryn Rock Records.
![]()
Aled Wyn Davies
Y Weddi (feat. Sara Meredydd)
- Erwau'r Daith.
- SAIN.
- 11.
![]()
Twm Morys & Gwyneth Glyn
Mae Dy Gariad Di Yn Y Ffair
- Tocyn Unffordd i Lawenydd.
- 10.
![]()
Gorky’s Zygotic Mynci
Diamonds O Monte Carlo
![]()
Ryland Teifi
Mae Yna Le
- Caneuon Rhydian Meilir.
- Recordiau Bing.
![]()
Ail Symudiad
Llwyngwair
- Y Man Hudol.
- Fflach.
![]()
NoGood Boyo
Y Bardd O Montreal
- Recordiau UDISHIDO Records.
![]()
Melda Lois
Bonne Nuit Ma Chérie
- I KA CHING.
![]()
Y Dail
Y Tywysog a'r Teigr
Darllediad
- Sul 21 Ion 202414:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
