
Pobl bro yr Eisteddfod
Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda rhai o gynhyrchwyr bwyd a phobl busnes ardal yr Eisteddfod Genedlaethol. Terwyn Davies chats to food producers who live in the Eisteddfod's area.
Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda rhai o gynhyrchwyr bwyd a phobl busnes ardal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd.
Rhian Tyne sy'n sôn am ei chwmni, Cig Carw Llŷn ym Moduan, a Jim Ellis, y ffermwr o'r Ffôr sy'n trafod sut y trawsnewidiodd adeiladau ar ei fferm i gynnig llety i ymwelwyr.
Hefyd, hanes Dafydd Povey a'i gwmni cigyddion o Chwilog, a Geraint Jones o Fecws Islyn yn Aberdaron ac Emlyn Roberts o Gigoedd y Llain yn trafod y cydweithio sydd wedi bod rhyngddyn nhw i wneud yn siŵr fod cwsmeriaid yn gallu prynu cig yn lleol eto.
A chawn glywed hanes sefydlu cwmni hufen iâ Glasu gan Annwen Roberts, sy'n cynhyrchu hufen iâ o fewn pedair milltir i faes yr Eisteddfod.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediad
- Sul 6 Awst 202307:00BBC Radio Cymru