
Teithio Cefn Gwlad Cymru
Terwyn Davies yn rhoi sylw i'r cymeriadau sy'n teithio cefn gwlad Cymru gyda'u gwaith. Terwyn Davies chats to some of the rural characters who travel with their work.
Mae Terwyn Davies yn rhoi sylw i'r cymeriadau sy'n teithio cefn gwlad Cymru gyda'u gwaith.
Ioan Rhys, y gof o ardal Trawsfynydd, sy'n sôn am ei waith yn teithio o gwmpas ffermydd lleol yn trin ceffylau o bob math.
Hanes Malan Hughes o Bwllheli, oedd unwaith â'i bryd ar fod yn arlunydd, ond sydd erbyn hyn yn filfeddyg yn ardal Y Ffôr.
Heledd Defis o Gaerfyrddin sy'n rhannu profiadau o deithio gyda'i phartner Jonathan i gneifio alpacaod yng ngorllewin Cymru a thu-hwnt.
A stori cwmni teuluol Gwion Morgan o'r Mwnt ger Aberteifi, sy'n cynnig gwasanaeth sganio a dipio defaid i ffermwyr y gorllewin.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Sul 12 Chwef 202307:00BBC Radio Cymru
- Sul 26 Maw 202307:00BBC Radio Cymru
- Llun 27 Maw 202318:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru