Rhiannon Boyle
Beti George yn sgwrsio gyda'r dramodydd Rhiannon Boyle. Beti George chat's to Writer Rhiannon Boyle.
Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol.
Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well.
O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto.
Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar ôl i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd.
Clywn hefyd am rai o'i dramâu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Yws Gwynedd
Sebona Fi
- CODI CYSGU.
- Recordiau Côsh Records.
- 7.
![]()
Lleuwen
Rhyddid
![]()
Super Furry Animals
Hello Sunshine
- Music From The OC: Mix 2.
- 2.
![]()
Sŵnami
Gwreiddiau
- Du A Gwyn.
- Copa.
- 2.
Darllediad
- Sul 29 Ion 202313:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people



