Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Tyfu pwmpenni yng Ngheredigion

Terwyn Davies sy'n clywed hanes menter newydd Tom a Bethan Evans o Lanfihangel-y-Creuddyn - tyfu pwmpenni. Tom and Bethan Evans talk about their new venture - growing pumpkins.

Terwyn Davies sy'n clywed hanes menter newydd Tom a Bethan Evans o Lanfihangel-y-Creuddyn - tyfu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf.

Hefyd, Iwan ac Elinor Davies o Fferm Hafod-y-Maidd, Glaslyn sy'n sôn am gadw gwartheg cynhenid Luing, a theithio'r wlad yn gwerthu'r cig mewn ffeiriau bwyd.

Hanes taith motobeics fferm gynhaliwyd yn ddiweddar yn ardal Pontrhydygroes ger Pontarfynach, er mwyn codi arian at Uned Chemotherapi Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Ac Aled Thomas o Sir Benfro sy'n sôn am arallgyfeirio i gadw moch yn ddiweddar.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 24 Hyd 202218:00

Darllediadau

  • Sul 23 Hyd 202207:00
  • Llun 24 Hyd 202218:00