Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ysbrydion

Ma'r ysbrydion allan, felly gwyliwch eich hunain! Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

John Hardy sy'n crwydro siambr dywyll yr archif yn chwilio am straeon ysbrydion ar gyfer Noson Calan Gaeaf. Y Parchedig Aelwyn Roberts sy'n sôn am angel marwolaeth ac yna Mari Gwilym sy'n crwydro Carchar Biwmares ac yn cael hanes Nerys a'i angel gwarcheidiol.

Barbara Lewis efo stori ysbryd ac yna R Gerallt Jones yn adrodd stori newyddion o'r 60au pan ymddangosodd Iesu Grist fel gweledigaeth yn Llanberis. Cyfle i ni glywed am daith hel ysbrydion ger y BBC yn Abertawe ar Noson Calan Gaeaf a chael llwyddiant o ddod a Nain a'i hwyres (o'r 19eg ganrif) yn nôl at ei gilydd.

Stori o’r archif gan y Parchedig Jacob Davies, Alltyblaca, ac yna darn o'r archif gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Y ddwy chwaer Betsan Moses ac Elin Williams yn trafod eu cysylltiad ag ysbrydion ac yna William Williams yn sôn am Fwgan y Betws. Y Parchedig Towyn Jones yn sôn am hanes y Marie Celeste yn y gyfres Goeliwch Chi Byth nôl yn 1982 cyn gorffen efo jôc ysgafn gan Gari Williams.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 3 Tach 202121:00

Darllediadau

  • Sul 31 Hyd 202114:00
  • Mer 3 Tach 202121:00