Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Swyddi

Swyddi o bob math yw thema'r rhaglen archif yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Swyddi o bob math yw pwnc John Hardy wrth iddo chwilio drwy'r archif:

Mae’r Brodyr Gregory yn galw yn siop y gornel yn Llanelli ac yn cael hwyl efo'r perchennog, Lydia Evans, a'r cwsmeriaid i gyd;

Clywn Simon Evans a Natasha Doran-Jones, aelodau o’r heddlu arfog efo Heddlu Gogledd Cymru, yn dechrau eu shifft nos, sy’n mynd a nhw ar hyd a lled arfordir gogledd Cymru;

Mae Harri Parri yn holi Cathleen Hughes, Waunfawr, am fod yn fydwraig yn Llundain yn y 1920au, ac yna mae Dilwyn Morgan sy' ar y môr efo Siôn Williams, sy'n bysgotwr llawn amser;

Tom Evans sy’n holi Dafydd Rees, Alltyblaca, Llanybydder am ei waith fel “cooper” sef yr hen grefft o wneud casgenni a’r budde ar gyfer gwneud menyn a chaws 'slawer dydd.

Sgwrs gyda Tecwyn Huxley o Lichfield, ond yn wreiddiol o Lanfairfechan, a fu'n gweithio fel taniwr ar y trenau stêm ym Mangor yn y 1950au cyn symud i weithio ar y trenau ym Mirmingham;

Pwy oedd isho gweithio ar awyren pan oedden nhw'n iau? Mi ddaru Robin Aled hyfforddi i fod yn beilot, er ei fod wedi cael cyfnod distaw iawn trwy'r pandemig;

Mae Gwen Pugh, Dolgellau, yn sôn am fynd i weithio yn Llundain fel morwyn i’r byddigion. Fe aeth ar y trên o Ddolgellau heb sicrwydd o waith, ond mi lwyddodd i gael swydd yn sydyn iawn yn Hampstead;

Ac mae'r rhestr swyddi yn gorffen efo'r dyn prysura yn Nhregaron, efallai - Huw Evans!

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 29 Medi 202121:00

Darllediadau

  • Sul 26 Medi 202114:00
  • Mer 29 Medi 202121:00