
Cofio Grav
Ar y 12fed o Fedi 2021 mi fuasai Ray Gravell wedi dathlu ei benblwydd yn 70 oed. Rhaglen arbennig yn cofio Grav. Remembering Ray Gravell through archive and song.
Rhaglen arbennig yn talu teyrnged i un o ŵyr enwocaf Cymru - Grav.
Ganwyd Raymond William Robert Gravell, unig fab Jack a Nina Gravell, yng Nghydweli ar y 12fed o Fedi 1951, cyn symud i Fynyddygarreg yn grwt ifanc.
Mi roedd yn chwaraewr rygbi, yn ddarlledwr, yn actor ac yn ddyn arbennig iawn a phawb trwy Gymru a thu hwnt yn meddwl y byd ohono. Roedd yn ymfalchïo yn ei Gymreictod a'i gynefin a “West is Best” oedd y gri ganddo bob amser.
Yn 2007 fe ddeffrodd Cymru i’r newyddion trist fod Ray o’r Mynydd, tra ar ei wyliau yn Sbaen efo’i wraig, Mari a’r merched Manon a Gwenan, wedi marw.
Cawn glywed atgofion lu gan ei gyfoedion o’r cae rygbi a hefyd atgofion gan lu o ffrindiau iddo ac wrth gwrs archif o’r dyn ei hun - ar y diwrnod y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
Mi fydd chwerthin ac mi fydd dagrau.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Endaf, skylrk. & Fairhurst
Gweld Dy Hun
- High Grade Grooves.
Darllediadau
- Sul 12 Medi 202114:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Mer 15 Medi 202121:00BBC Radio Cymru
