
Gwyliau
Gwyliau yw'r thema wrth i ni bori drwy'r archif. Gwibdaith i'r UDA, Aberdyfi, Butlins, Aberaeron a Rhyl, i enwi 'mond ychydig. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Paciwch eich cêsus, mae John Hardy yn mynd a ni ar wyliau drwy'r archif!
Mae angen y sequins a'r siwt grand ar gyfer y daith cynta’, wrth i Margaret Williams sôn am ei gyrfa ar y llongau pleser. Clywn hefyd hanes Maggie Evans a oedd yn cadw gwesty yn Aberdyfi ac yna taith dros yr Iwerydd wrth i Mrs Elen Jones o Fethel fynd ar “vacation” i America a chael trip i fferm Buffalo Bill.
Mae Harri Parri yn siarad gyda T H Jones, Caelloi, Pwllheli ynglŷn â sut ddechreuodd y cwmni bysus ... efo mul mae’n debyg! Robin Williams sy’n holi Pegi Parry am fanteision mynd ar wyliau gyda bws moethus, a Bob Morris yn sôn am ei gyfnod o 7 mlynedd yn gweithio dros yr haf yn Butlins, Pwllheli. A hanes Daniel Jones yn ymweld â Glastonbury yn 1984 a chwrdd â Siwsann George o'r grŵp gwerin Mabsant.
Mae Miss Elaine Lewis a fu’n byw yn Aberaeron, yn cofio’r ymwelwyr yn dod yno pan oedd hi’n blentyn. Bu Elaine yn athrawes yn Ysgol y Sir am dros ddeugain mlynedd. A T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones a oedd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros ddeugain mlynedd, a chadw gwesteion fel Morecambe & Wise a hefyd Russ Conway.
Ac os ydych chi’n eu caru nhw neu yn eu casau nhw, mae gwyliau carafan yma i aros - Sulwyn Thomas sy'n canu eu clodydd i Dyfan Roberts.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 15 Awst 202114:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2