Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Sir Ddinbych

Crwydro Sir Ddinbych drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Crwydro Sir Ddinbych - o Rhyl trwy Ddinbych a Rhuthun, dros Fwlch yr Oernant i Langollen ac yna galw yng Nghorwen:

Lle oeddech chi Awst yr 8fed 1973? Oeddech chi yn y Pafiliwn yng Nghorwen adeg Eisteddfod Dyffryn Clwyd? Noson Lawen Cymdeithas yr Iaith oedd hi a noson gofiadwy “Tafodau Tân”, neu falle roeddech chi'n mynychu gigs Sgrech yn yr 80au?!

Lisa Gwilym sydd yn sgwrsio gydag Alun Rhys Jones o Fand Arian y Rhyl ac yn clywed ei atgofion o berfformio ar y prom yno.

Mae E Tegla Davies, y llenor a’r gweinidog, yn sôn am ei blentyndod gydag Aneirin Talfan Davies ar y rhaglen Dylanwadau yn 1965. Ganwyd Tegla yn Llandegla ym mis Mai 1880.

Sgwrs gyda'r cogydd a'r dyn busnes Bryn Williams. Mae ganddo fwytai yn Llundain ac ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

A beth am bwt o'r Talwrn o 1980? Gwyn Williams a Gerallt Lloyd Owen sy’n gosod her i dimau Dinbych a Llanelwy - cân gocos ar y testun "ymfudo". A John Idris Owen o Ddinbych ac Aneurin Prys Williams o dîm Llanelwy sy'n mentro ar y dasg.

Mae Emyr Daniel ar drywydd hanes Thomas Gee, ac yna pwt gan Kate Roberts, a fu yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych am flynyddoedd. Heb anghofio Beti George yn holi Emyr Humphreys o flaen cynulleidfa yn Eisteddfod Rhyl 1985.

Mae Llangollen yn gartref i'r Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, ac mae blodau'r llwyfan yn ddigon o sioe bob blwyddyn - ond faint o baratoi sy' arnynt? Yna rydyn ni’n aros yn y dref i glywed hanes cynnar Dora Herbert Jones.

Un o gantorion anwylaf Sir Ddinbych, Trebor Edwards, sy’n sgwrsio gyda Beti George, ac mae Aled Samuel yn holi un o gymeriadau anwylaf y sir, Heulwen Hâf.

Ac yn ola’, Harddwch, Doethineb a Dysg yw arwyddair Ysgol Glan Clwyd ac fe glywn ni hanes yr ysgol yn dathlu 50 mlynedd o fodolaeth yn 2006.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 23 Mai 202114:00

Darllediad

  • Sul 23 Mai 202114:00