Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.

Yn ystod 2017 bu’r Theatr Genedlaethol yn gyfrifol am lwyfannu cynhyrchiad o’r ddrama epig “Macbeth” yng Nghastell Caerffili ac yn ddiweddar mae recordiad o’r cynhyrchiad wedi ei ryddhau i’w wylio’n rhithiol. Mae Nia Roberts felly yn hel atgofion efo dau o sêr y ddrama, sef Ffion Dafis a Richard Lynch ac efo Angharad Mair Davies, Pennaeth Cynhyrchu y Theatr Genedlaethol.

Alun Llwyd sy'n edrych nôl dros flwyddyn gyntaf “AM”, y platfform digidol sydd wedi cynnig llwyfan i bob math o gelfyddyd yn ystod y flwyddyn anodd a fu.

Caradog Williams yn sgwrsio am yr her o gyfansoddi opera newydd sbon a sgwrs hefyd efo Cadeirydd newydd Ballet Cymru, Jên Angharad.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 1 Chwef 202121:00

Darllediad

  • Llun 1 Chwef 202121:00