Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

America

Archif, atgof a chân o dros Fôr yr Iwerydd yng nghwmni John Hardy. John Hardy visits all things American in the BBC archive.

"Overpaid, oversexed and over here” oedd y dywediad am y GI’s adeg yr Ail Ryfel Byd a fe glywn Margaret “Madge” Wing o Ynys Môn yn disgrifio ei phenderfyniad i briodi milwr Americanaidd a mynd i’r UDA i fyw ar ôl y rhyfel. Hefyd, hanes anhygoel Martha Hughes Cannon, yn wreiddiol o Landudno, a ymfudodd i America gyda'i theulu yn 1861. Yn ddiweddarach fe chwaraeodd ran flaenllaw yn y frwydr i sicrhau hawliau cyfartal i ferched yn America a hi oedd y seneddwraig benywaidd cynta yn y wlad.

Wrth i'r Americanwyr ennill y ras i'r lleuad yn 1969, y ffisegydd, Dr Peri Vaughan Jones, sy'n sôn am gysylltiadau'r Cymry sy' di gwneud eu marc i helpu'r Americanwyr ar eu taith. Mi fydd Ernest Roberts yn sôn am Ffair Mawr y Byd 1893 yn Chicago a Huw Llywelyn sy' draw yn Los Angeles yn cwrdd ac un o gymeriadau cyfarwydd Radio Cymru nôl yn yr 80au a'r 90au, sef IDE Thomas.

Hefyd, y cyflwynydd a'r gohebydd rhyngwladol, Aled Huw, yn sôn am fod allan yn America yn sylwebu ar y rasus arlywyddol. Mae wedi mynychu pob un ers 1996, ond wedi methu eleni oherwydd y pandemig.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 17 Ion 202114:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 17 Ion 202114:00