Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.

Yn ymuno efo Nia Roberts heddiw mae’r awdures Rhian Cadwaladr a’r darlunydd Leri Tecwyn, mam a merch sydd newydd gyhoeddi llyfr newydd i blant. Mae Marged Elin Owain yn trafod ei gwaith serameg ac mae Catrin Beard yn sgwrsio efo Euron Griffith am ei nofel gyntaf yn Saesneg, sef “Miriam, Daniel and Me”.

Iola Myfyr sydd yn sgwrsio am brosiect celf heriol sy’n rhoi sylw i ferched yn ystod dyddiau anodd y pandemic.

Hefyd, Arwel Gruffydd o’r Theatr Genedlaethol ynghyd â’r perfformwyr Mari Elen Jones a Chris Harris sy'n trafod cynhadledd rhithiol sy’n rhoi llwyfan digidol i sefydliadau theatrig o’r gwledydd Celtaidd.

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 9 Tach 202018:00

Darllediad

  • Llun 9 Tach 202018:00