Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhaglen 2

Jon Gower yn cyflwno storiau, chwedlau, ffeithiau a rhagwelediadau am Gymru a'r môr. Stories, fairy tales and facts about Wales and the sea.

Mae'r môr yn ffin i Gymru ar dair ochr. Lle chwarae yw e i nifer ohonom ni erbyn hyn ond ers canrifoedd mae'r môr wedi caniatau i ni deithio, i fasnachu, i frwydro, ac i ni fwydo ein hunain. Mae rhai yn dal i gael bywoliaeth o'r môr tra bod eraill yn hiraethu am gael bod ar y tonnau yn amlach ac eraill yn sicrhau bod hanes ein perthynas â'r môr yn cael ei gadw.
Jon Gower sy'n sgwrsio gyda'r hanesydd Dr David Jenkins, Dilwyn Morgan, y bardd Gwyneth Lewis, yr hanesydd lleol Meinir Pierce Jones a'r pysgotwr Sion Williams i olrhain hanes masnach llongau Cymru, pysgota dros y canrifoedd a'r diwydiant codi llongau.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 5 Ebr 202112:30

Darllediadau

  • Sul 1 Tach 202018:30
  • Llun 5 Ebr 202112:30