Main content

01/10/2019
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant, mewn fersiwn fyrrach o raglen nos Sul. A shortened edition of Dei's Sunday evening programme.
Fersiwn fyrrach o raglen nos Sul.
Mae'n 400 mlwyddiant geni Morgan Llwyd, y Piwritan ac awdur rhyddiaith gorau welodd Cymru erioed yn ôl rhai. Dafydd Glyn Jones sydd yn sgwrsio amdano.
Dafydd ap Gwilym sydd dan sylw gan Dafydd Johnstone, yn dilyn cyhoeddi llyfryn newydd gan John Bollard ac Anthony Griffiths. Mae Cymru Dafydd ap Gwilym – Cerddi a Lleoedd yn cynnwys lluniau i gyd-fynd â rhai o gerddi nodedig y bardd.
Ac wrth i Clwb Mynydda Cymru ddathlu 40 mlynedd mae Dei yn nodi’r garreg filltir bwysig yma drwy hel atgofion yng nghwmni Gwyn Williams a Gwen Aaron.
Darllediad diwethaf
Maw 1 Hyd 201918:00
BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Rhagor o benodau
Darllediad
- Maw 1 Hyd 201918:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Podlediad
![]()
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.
