
Ar Ben y Lôn
Cyfrol o farddoniaeth gyfoes gan y Prifardd Idris Reynolds yw Ar Ben y Lôn, a mae'n sôn wrth Nia am y cefndir. Idris Reynolds tells Nia about his book of contemporary poetry.
Cyfrol o farddoniaeth gyfoes gan y Prifardd Idris Reynolds yw Ar Ben y Lôn. Mae'n daith o gwmpas gorllewin Cymru, gan gyflwyno cymeriadau, llefydd, digwyddiadau a theimladau'r bardd ar amryw bynciau. Mae'n sôn wrth Nia am y cefndir.
Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Bangor am chwe blynedd, mae Cefin Roberts yn egluro fel y mae cyhoeddi ei drydedd nofel, Os Na Ddôn Nhw..., yn ddiweddglo perffaith i'w ddoethuriaeth mewn sgwennu creadigol.
Mae 'na ymweliad â gweithdy’r artist Haf Weighton o Benarth, sy’n gweithio gyda phaent, print a phwythau i bortreadu’r adeiladau a’r strydoedd o’i chwmpas.
Hefyd, 60 mlynedd ers cyhoeddi albwm gyntaf Cliff Richard, dyma ofyn i Peter Pan Radio Cymru, Wil Morgan, am apêl diddiwedd y canwr.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Mer 3 Ebr 201912:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Sul 7 Ebr 201917:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2