
Bro Teifi
Rhys Meirion ar ymweliad ag ardal Bro Teifi, yn cwrdd â rhai o'r cymeriadau lleol. Rhys Meirion visits Bro Teifi, where he meets some of the local characters.
Ar ymweliad ag ardal Bro Teifi, mae Rhys Meirion yn cwrdd â Vernon Maher, neu Tenor Teifi fel y mae'n cael ei adnabod yn lleol.
Ers canrifoedd, mae cwrwglau wedi cael eu defnyddio ym Mro Teifi i bysgota a denu ymwelwyr, a'r dyn sy'n gwybod popeth am hyn ydy Denzil Davies.
Yn wahanol i nifer o rai eraill, mae Stryd Fawr Aberteifi a'r siopau bach yno wedi llwyddo i oroesi a ffynnu. Un o fusnesau hynaf y dref ydy Becws Queens. Mae Rhys yn cwrdd â'r perchennog, Martin Radley, ac yn cael joban o waith ganddo!
Mae hefyd yn ymweld â chwmni Huit, sy'n cynhyrchu jîns a'u hallforio i bob cwr o'r byd.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Iau 10 Ion 201912:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Iau 20 Meh 201920:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
- Iau 1 Awst 201912:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2