
Dragwniaid yn y Dre
Sgyrsiau'n cynnwys Dafydd Glyn Jones yn trafod ei lyfr, Dragwniaid yn y Dre, sydd wedi'i lleoli'n y flwyddyn 1801. Dei's guests include author Dafydd Glyn Jones.
Llyfr gan Dafydd Glyn Jones yw Dragwniaid yn y Dre, am ddigwyddiad o 1801. Mae'n sôn am y llywodraeth yn anfon mintai o ddragwniaid i Gaernarfon, rhag ofn chwyldro, gan ddweud dipyn am amgylchiadau'r oes.
Cyfrol arall y mae Dei yn clywed rhagor amdani yw Cardiau Post gan Gerwyn Williams, sy'n cynnwys saith deg o gerddi cardiau post o fannau yng Nghymru ac ar draws y byd.
Gadael Tir ydy enw prosiect llafar a chân diweddar y canwr gwerin Owen Shiers a'r storïwr Gwilym Morus-Baird, ac mae'r ddau yn sgwrsio am yr ymchwil a oedd ynghlwm â'r gwaith.
Sylw hefyd i chwe deg mlwyddiant Cymdeithas Gruffydd ap Cynan yn ardal Dyffryn Conwy. Meurig Rees a Lona Jones sy'n hel atgofion.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Côr Dre
Yma Wyf Finna I Fod
- Sain y Corau.
- SAIN.
- 9.
![]()
Owen Shiers
Dic Penderyn
![]()
Lleuwen
Mynyddoedd
- Gwn Glân Beibl Budr.
- Sain.
- 11.
![]()
Steffan Rhys Hughes
Y Mur (feat. Mared)
- Steffan.
- Sain.
- 5.
Darllediad
- Sul 2 Rhag 201817:30BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Podlediad
![]()
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.

