Neville Evans
Beti George yn sgwrsio gyda'r gwyddonydd Neville Evans. Beti George chats with scientist Neville Evans.
Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach.
Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr.
Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar.
Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig mewn ysgolion ledled y wlad.
Mae hefyd yn sgwrsio gyda Beti am ei atgofion o fagwraeth braf yn Gendros, Fforestfach, ac am bwysigrwydd ffydd iddo fe.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Foy Willing
Home On The Range
![]()
Llŷr Williams
Bagatelle in A Minor - Fur Elise
- Signum Records.
![]()
Bryn Terfel
Lord God Of Abraham, Isaac And Israel
- Decca Music Group Ltd..
Darllediadau
- Sul 28 Hyd 201812:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Iau 1 Tach 201818:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people



