Main content

Deri Tomos

Beti George yn sgwrsio â'r gwyddonydd Deri Tomos. Beti George chats with scientist Deri Tomos.

Er bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt.

Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd.

Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenhwyseg teulu ei dad.

Mae'n sôn wrth Beti am ei ffydd, traddodiadau asgell chwith Coleg y Brenin yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, drwghoffi ffonau o bob math, cadw gwenyn a dysgu canu.

Mae hefyd yn trafod datblygiadau gwyddonol o bob math ym maes iechyd, technoleg a'r gofod.

Ar gael nawr

47 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 21 Meh 201818:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Al Lewis

    Dŵr Yn Y Gwaed

    • Ar Gof A Chadw.
    • Rasal.
    • 3.
  • Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr

    Ethiopia Newydd

  • Etran Finatawa

    Matinfa

    • The Sahara Sessions.
    • Riverboat Records.
    • 1.
  • Cwmni Theatr Maldwyn & Sara Meredydd

    Rwy'n Dy Weld Yn Sefyll

    • Ar Noson Fel HoN.
    • SAIN.
    • 10.

Darllediadau

  • Sul 17 Meh 201812:00
  • Iau 21 Meh 201818:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad