Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Moeseg Newyddiadurol ac Ethol Archesgob Cymru

John Roberts a'i westeion yn trafod moeseg newyddiadurol ac ethol Archesgob Cymru. John Roberts and guests discuss ethical journalism and the election of a new Archbishop of Wales.

Pam fod llifogydd yn Houston yn cael mwy o sylw na rhai yn India, Nepal a Bangladesh? Ifan Morgan Jones sy'n ymuno â John Roberts i drafod beth sy'n dylanwadu ar yr agenda newyddion.

Ychydig ddyddiau cyn i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru gwrdd i ethol Archesgob Cymru, mae John yn clywed barn Huw Tegid Roberts, Manon Ceridwen James, Dyfrig Lloyd a Lyn Lewis Dafis ar y math o archesgob sydd ei angen, a beth fydd yr heriau iddo fe neu hi.

Mae Edwin Regan, cyn-esgob Wrecsam, yn cofio'r Cardinal Cormac Murphy-O'Connor, a fu'n arweinydd ar yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr rhwng 2000-2009.

Ac ar ôl i Cymru Sanctaidd gyhoeddi canlyniad pleidlais dros addoldai mwyaf poblogaidd Cymru, Elfed ap Nefydd Roberts sy'n pwyso a mesur y dewis.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 3 Medi 201708:00

Darllediad

  • Sul 3 Medi 201708:00

Podlediad