Main content

Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn
Yn cynnwys sgwrs am y gyfrol Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn. Dei hears about an anthology of the work of contemporary Anglesey poets.
Cen Williams ac Ioan Tryfil Roberts sy'n ymuno â Dei i sgwrsio am y gyfrol Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn, wrth i David Thorne drafod enwau lleoedd bro Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái.
Cofio D.G. Jones (Selyf) mae Dewi Jones a Nan Ellis. Bu farw'r arloeswr ym myd cerdd dant yn ddiweddar.
Bardd a llenor ifanc o Ben Llŷn yw Iestyn Tyne. Mae'n dweud wrth Dei am gyfrol o farddoniaeth y mae wedi ei chyhoeddi ei hun.
A cherdd gan fardd preswyl Radio Cymru ym mis Mai, yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen, er cof am ei ferch Elliw.
Darllediad diwethaf
Sul 28 Mai 201717:30
BBC Radio Cymru
Rhagor o benodau
Darllediad
- Sul 28 Mai 201717:30BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.
