Main content

Y Tŷ
John Hardy sy'n cyflwyno archif, atgof a chân yn ymwneud â'r tŷ, gan gynnwys Ifas y Tryc yn ymweld â'r Ideal Home Exhibition. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
John Hardy sy'n cyflwyno archif, atgof a chân yn ymwneud â'r tŷ.
Mae'r pytiau'n cynnwys y Parchedig Cynwil Williams yn cofio Penrhiw, sef ei hen gartref yn ardal Llangadog, a Syr T. H. Parry-Williams yn adrodd ei gerdd Tŷ'r Ysgol.
Mae Eira Rowley ac Ethel Lloyd yn hel enwau tai, a chawn hanes Plas Braenog rhwng Aberaeron a Llambed gan Gareth Owen.
Ymweld â hen gartref T. Rowland Hughes yn Llanberis mae Arwel Jones, wrth i Lyn Ebenezer sôn am Llew Evans a oedd arfer cadw tŷ tafarn Y Llew Du yn Aberystwyth.
Hefyd, ymweliad Ifas y Tryc â'r Ideal Home Exhibition.
Darllediad diwethaf
Mer 17 Mai 201718:00
BBC Radio Cymru
Darllediadau
- Sul 14 Mai 201713:00BBC Radio Cymru
- Mer 17 Mai 201718:00BBC Radio Cymru