
Shirley Bassey
I gyd-fynd â'i phen-blwydd yn 80 oed, dyma raglen am fywyd a gyrfa'r Fonesig Shirley Bassey. To mark her 80th birthday, a look at the life and career of Dame Shirley Bassey.
I gyd-fynd â'i phen-blwydd yn 80 oed, dyma raglen am fywyd a gyrfa'r Fonesig Shirley Bassey o Gaerdydd.
Mae Nia'n crwydro ardal Tiger Bay gyda Dr Dylan Foster Evans, ac yn sgwrsio â George Parry a chwaraeodd y gitâr i'r Shirley Bassey ifanc yn y 1950au.
Dyl Mei sy'n edrych ar ei lle yn hanes cerddoriaeth boblogaidd, o'i llwyddiant aruthrol gydag arwyddgan un o ffilmiau James Bond i Kanye West yn samplo un arall.
Mae Lily Beau, y gantores ifanc o Gaerdydd, yn trafod ei dylanwad arni hi, cyn i Stifyn Parri sôn am Shirley Bassey y difa. Dydi o erioed wedi siarad â hi, er ei bod hi'n rhan o sawl cynhyrchiad ganddo ar hyd y blynyddoedd. Mae hynny, o bosib, yn dweud y cyfan.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Mer 4 Ion 201712:30BBC Radio Cymru
- Sul 8 Ion 201717:00BBC Radio Cymru
- Mer 3 Ion 201812:30BBC Radio Cymru
- Sul 7 Ion 201817:00BBC Radio Cymru
- Sul 12 Awst 201817:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2