Mynydd Mawr
Iolo Williams a'i westeion ar gopa Mynydd Mawr yn trafod dirgelion creaduriaid mudol. Iolo Williams and guests on Mynydd Mawr mountain in Snowdonia.
Ar fore heulog, braf, ble well na chopa Mynydd Mawr - pegwn uchaf Uwchmynydd ym mhen eithaf Penrhyn Llyn - i gyfarfod a thrafod rhyfeddod, gwyddoniaeth a dirgelion creaduriaid mudol.
Yn anffodus, does dim golwg o'r haul nac o fawr ddim arall wrth i griw Gwarchod y Gwyllt gyrraedd yn barod i recordio.
Ar ôl dechrau'r rhaglen yn y gwynt main a'r niwl tew yn nhalcen hen wylfa Gwylwyr y Glannau, mae'n rhaid cilio i gysgod mwy gwahoddgar Porth Meudwy tua hanner milltir yn is i lawr.
Yn ymuno â Iolo Williams y tro hwn mae Bethan Wyn Jones, Kelvin Jones a Dyfrig Jones. Hefyd, Nia Haf Jones o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, sydd yn arbenigwraig ar famaliaid y môr.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 13 Tach 201619:05BBC Radio Cymru
- Maw 15 Tach 201612:00BBC Radio Cymru

