Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Tân

Tân sy'n cael sylw John Hardy ar yr ymweliad hwn â'r archif. John Hardy focuses on fire on this visit to the Radio Cymru archive.

Tân sy'n cael sylw John Hardy ar yr ymweliad hwn â'r archif sy'n cynnwys Dyfed Thomas yn sôn am gael ei arestio fel rhan o gynllwyn Meibion Glyndwr.

Cawn ddarlun o Blitz Abertawe gan Miriam Evans wrth iddi gofio bod mewn gwasanaeth yng Nghapel Dinas Noddfa, Glandwr, yn ystod y bomio yn 1941.

Dwy enghraifft wahanol iawn o waith diffoddwyr tân yw Cecil Ravenhill yn gweithio ar noson llosgi ysgol fomio Penyberth yn 1936, yna Gerwyn Howells yn helpu wedi daeagryn Haiti yn 2010.

Ac mae'r actor Richard Elfyn yn mynd â ni i fyd un o gymeriadau mwyaf hoffus Cymru wrth siarad am Sam Tân a rhai o leisiau'r gyfres deledu boblogaidd.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 9 Tach 201618:00

Darllediadau

  • Sul 6 Tach 201613:00
  • Mer 9 Tach 201618:00