
Iaith y Dosbarth?
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Er bod canran y siaradwyr Cymraeg ymhlith plant a phobl ifanc ar i fyny faint sy'n siarad yr iaith y tu allan i'r dosbarth - yn anffurfiol?
A be y gellid ei wneud i sicrhau nad iaith ysgol yn unig fydd y Gymraeg yn y dyfodol?
Dyma'r cwestiynau sy'n sail i waith ymchwil newydd gan Dr. Sion Aled Owen. Drwy Brifysgol Bangor mae o wedi cael arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae'n trafod ei ganfyddiadau cychwynnol - am y tro cyntaf - ar raglen Manylu yr wythnos hon.
Mae'r rhaglen yn ymweld a dwy ysgol gymraeg yn Wrecsam - Bod Hyfryd a Morgan Llwyd - i gael barn pobl ifanc am eu defnydd o'r Gymraeg ac yn glywed am gynllun i hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod amser egwyl disgyblion ieuengaf Ysgol Tregarth ger Bangor.
Darllediad diwethaf
Clip
![]()
Rhybudd am ddyfodol y Gymraeg.
Hyd: 00:15
Darllediadau
- Iau 25 Meh 201512:31BBC Radio Cymru
- Sul 28 Meh 201517:30BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


