
12/03/2015 - Boddi dan goncrid?
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Ymchwilio i gynllun fydd yn treblu maint Bodelwyddan - a chwynion bod gormod o dai yn cael eu codi yng Nghymru.
Yn gynharach eleni rhoddwyd caniatâd i godi 1,700 o dai ym Modlewyddan yn Sir Ddinbych mewn cynllun fyddai’n treblu maint y pentref. Ond ydi’r gymuned leol wedi cael gwrandawiad teg – neu ydi eu pryderon wedi eu anwybyddu o dan bwysau i godi tai ar gyfer y dyfodol?
Manylu fydd yn clywed cwynion gan ymgyrchwyr bod yr awdurdodau wedi anwybyddu eu tystiolaeth nhw ynglyn ag effaith y datblygiad – yn cynnwys pryderon am lifogydd yn yr ardal. Bydd y rhaglen hefyd yn ymweld a rhannau eraill o Gymru ac yn gofyn os ydi cynlluniau i adeiladu gormod o dai yn mynd i foddi cymunedau.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Clip
![]()
Pryderu am effaith treblu maint Bodelwyddan
Hyd: 00:53
Darllediadau
- Iau 12 Maw 201512:31BBC Radio Cymru
- Sul 15 Maw 201517:30BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


