
"Treisio - siarad o brofiad"
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Mae Manylu yr wythnos hon yn siarad â gwraig o Wynedd a gafodd ei threisio yn y nawdegau ond a gadwodd y cyfan yn gyfrinach tan achos llys y llynedd pan gafodd yr ymosodwr ei garcharu am 12 mlynedd.
Mae hi'n annog dioddefwyr eraill i gysylltu â'r heddlu gan ddweud ei bod hi wedi cael cymorth mawr. Mae ei phrofiad yn un dirdynnol a chignoeth. Ond yn ôl mudiadau ac elusennau cymorth i ddioddefwyr nid pawb sy'n teimlo'n hapus i fynd at yr heddlu oherwydd sensitifrwydd yr achos a'r ffaith bod unigolion yn aml iawn yn adnabod yr ymosodwr.
Annog unigolion i gysylltu â'r heddlu mae gwasanaeth erlyn y goron gan ddweud fod 58 y cant o erlyniadau treisio wedi llwyddo yn y llysoedd yng Nghymru y llynedd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
![]()
"Wedi ugain mlynedd - datgelu i'r heddlu"
Hyd: 00:28
Darllediadau
- Iau 19 Chwef 201512:31BBC Radio Cymru
- Sul 22 Chwef 201517:30BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


