Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Yr wythnos hon mae Stifyn yn darganfod sut i blethu gwellt, tynnu rhaff a sugno lemwn wrth iddo ymuno a mwynhau'n arw gyda aelodau o CFfI Cymru yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

29 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Medi 201313:03

Prif Gyfranwyr

Mae Aeron Pughe wedi bod yn weithgar hefo'r Ffermwyr Ifainc ers sawl blwyddyn gan ddiddanu mewn Eisteddfodau CFfI ac Nosweithiau Llawen ar draws Cymru. Cystadlodd ar gyfres Fferm Ffactor yn 2010. Yn ffermio ar fferm y teulu yn Garowen ac yn wyneb cyfarwydd iawn ar Cyw!

Rheolwr Gwasanaeth Gwybodaeth i 'Gwynedd Ni' yw Martin Roberts. Mae Martin yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifainc Bodedern.

Mae Carys a Teleri Vaughan yn ddwy chwaer ac yn aelodau prysur iawn o Glwb Ffermwyr Ifainc Eglwyswrw.

Clwb CFfI Cymru
Canolfan CFfI, Llanelwedd, Llanfair Ym Muallt, Powys LD2 3NJ
[email protected]

Darllediadau

  • Gwen 20 Medi 201314:04
  • Sul 22 Medi 201313:03