Main content

Tai haf - rhoi'r ffidil yn y tô?
Wrth i ffigyrau newydd ddangos niferoedd uchel tai haf yn Nghymru, ydi'n bosib eu rheoli?
Ers degawdau bu tai haf yn bwnc llosg yng Nghymru - yn destun protestio a pholisiau i geisio'u hatal rhag dinistrio ardaloedd Cymreig.
Am y tro cyntaf erioed fe ryddhawyd ffigurau’r Cyfrifiad yn ddiweddar am y niferoedd gyda tai haf ym Mhrydain – ac roedd poblogrwydd parhaus Cymru yn amlwg. Felly ydi hi’n bryd newid cyfeiriad? Ac a fyddai cael gwared o dai haf wir yn achub cymunedau Cymreig?
Bydd Manylu yn datgelu pryderon bod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi – ac yn ymweld â phentrefi Llangrannog a Beddgelert i weld sut mae nifer fawr o dai haf yn effeithio'r gymdeithas.
Darllediad diwethaf
Sul 2 Rhag 201218:32
BBC Radio Cymru
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
![]()
Beddgelert, Gwynedd lle mae nifer o dai haf
Hyd: 00:44
Darllediadau
- Mer 28 Tach 201214:03BBC Radio Cymru
- Sul 2 Rhag 201218:32BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.


