Main content

Fajitas Cyw Iar gan Rhian Haf

Fajitas Cyw Iar

Pecyn o tortillas

  • Cyw iar wedi'i dorri'n stribedi
  • 1 nionyn coch
  • 1 pupur coch
  • 1 chilli coch

Marinad

  • Llwy fwrdd o paprika
  • Llwy fwrdd o coriander
  • Pinsiad o cumin
  • 2 ewin garlleg
  • Sudd leim

1. Rhoi'r tortillas mewn ffoil, a'i rhoi yn y popty - 200 C.

2. Cymysgu'r cynhwysion ar gyfer y marinad mewn powlen.

3. Torri'r nionyn a'r pupur coch.

4. Ychwanegu'r nionyn, pupur a'r cyw iar i'r marinad a'i cymysgu.

5. Cynhesu olew olewydd mewn padell - ychwanegu'r cynhwysion a'i ffrio.

Salsa

  • 1 chilli coch
  • 15 o domatos bychain
  • Bwnshyn o coriander ffresh
  • Sudd leim
  • Olew olewydd
  • Pupur du
  • Halen

Torri'r cynhwysion yn ddarnau bach a'i cymysgu efo'r sudd leim ac olew olewydd. Ei gadael am awr cyn gweini.

Guacamole

  • 2 avocado
  • 6 tomato bach
  • 1 chilli coch
  • 2 neu 3 sbrigyn o coriander
  • 1 leim

1. Tynnu'r garreg o'r avocados a thorri'r ffrwyth.

2. Torri'r tomatos, chilli a'r coriander yn ddarnau bychain.

3. Gwasgu'r sudd o'r leim a chymysgu popeth.

Ffa Pinto (refried beans)

  • 2 - 3 chilli (coch, gwyrdd neu jalapeno)
  • 1 pupur coch
  • 1 ewin garlleg
  • Llwy fwrdd o finegar balsamic
  • Ffa pinto (100g)
  • Llwy de o puree tomato
  • Hanner llwy de o cumin

1. Socian y ffa dros nos mewn digon o ddwr oer.

2. Berwi'r ffa am 10 munud - wedyn gostwng y gwres a'I mudferwi am awr.

3. Torri'r llysiau a ffrio popeth am 3 munud - yna ychwanegu'r ffa

4. Stwnsho popeth efo'i gilydd.