Main content

Ryseit Pate Iau Cyw Iâr

Ryseit pate iau cyw iâr – addas fel cwrs cyntaf santes dwynwen.

pate iau cyw iâr

Ryseit am Pate Cyw Iar sydd gan Dorothy y tro hwn. Byddai'n gwneud cwrs cyntaf gret ar gyfer pryd rhamantus Santes Dwynwen, ond oherwydd fod garlleg ynddo, efallai y byddai'n well be byddai'r ddau yn ei gael fel pryd cyntaf!

Felly dyma'r ryseit:

Cynhwysion

  • 8 Owns o Afu/Iau Cyw Iâr
  • 1 nionyn canolig ei faint wedi ei dorri'n fan
  • 3 clove o arlleg
  • 4 owns o fenyn
  • 1 mesur o Brandy
  • 2 owns o hufen dwbl
  • Croen oren ac ychydig o'i sudd.

Dull

Ffrio'r nionyn a'r garlleg yn y menyn.

Ychwanegu'r Iau sydd wedi ei torri'n fan a'i glanhau.

Coginio popeth am rhyw 5 munud.

Ychwanegu'r brandy a'r croen a'r sudd oren.

Ei flasu gyda pupur a halen cyn ychwanegu'r hufen.

Cymysgu'r cwbl.

Gadael iddo oeri rhyw fymryn cyn ei gymysgu mewn prosesydd bwyd neu gyda blender llaw.

Gellir ei arllwys wedyn i botiau bach neu ei roi mewn un potyn mwy, cyn ei gadw yn yr oergell.

Gellir ei gadw am ychydig yn hirach os ydych yn toddy menyn i greu ‘seal' ar ei ben, ac mae'n bosib ei rewi.