Main content

Ffrindiau'n Unig

Mae'r rhaglen hon yn son am deimladau pobl ifainc a pherthnasau.

Hyd: 11:54

Mae’r criw yn mynd i nofio ac wrth y pwll mae’r sgwrs yn troi at gusanu. Cerdda Max (16) heibio i Monica (11) gan honni ei fod wedi cusanu’r rhan fwyaf o’r merched yn y pwll. Mae Tony (13) yn llawn edmygedd, ond mae Monica yn torri’i chalon gan ei bod wedi gwirioni ar Max. Mae Lara (12) a Gabriel (13) yn siarad am dwpdra Max a’i frolio gwirion, ac yna’n gwbl annisgwyl… yn cusanu ei gilydd!

Yn syth ar ôl cusanu, maen nhw’n mynd i banig llwyr ac yn rhedeg i guddio. Mae Lara yn gofidio, ac mae Gabriel yn poeni. Mae eu ffrindiau’n gweld y gusan o’r ochr arall i’r pwll ac yn awyddus i wybod ydy Lara a Gabriel yn gariadon nawr.

Mae’n rhaid i Lara a Gabriel siarad â’i gilydd a bod yn agored am eu teimladau. Efallai y byddan nhw’n synnu eu ffrindiau, ond mae bod yn onest yn angenrheidiol i’w perthynas. A beth am Max? Mae e’n llwyddo i gusanu rhywun arall, ond rhywun annisgwyl.

Pwnc: ABCh Testun: Perthnasau: Teimladau

Geiriau allweddol: Tri Chwestiwn i Lara, cusanu, cusan, glasoed, poenau tyfu, teimladau, embaras, cywilydd, cyfeillgarwch, pryder, poeni, nerfau, colur, datblygiad, pwysau

Syniadau i'r dosbarth

Gellir defnyddio’r stori hon fel man cychwyn i archwilio perthnasau, ac yn arbennig sut mae cyfeillgarwch yn gallu newid wrth dyfu i fyny. Gallech hefyd ei defnyddio i drafod pwysau gan gyfoedion a sut i’w reoli.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill

• ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill a deall:

• y manteision o gael ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed

• bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• deall yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.