Main content

Dw i Isho Bod yn Enwog!

Mae'r rhaglen hon yn son am gyfeillgarwch ac enwogrwydd.

Hyd: 11:53

Yn yr ysgol mae'r dosbarth yn cael y dasg o wneud fideo am eu bywyd a'u profiadau mewn ysgol ryngwladol. Mae Gabriel (13) wrth ei fodd pan ddaw'r seren Mandy Minstrel i ddangos i'r dosbarth sut mae gwneud fideo da. Mae Monica (11) wedi cyffroi drwyddi, oherwydd mae hyn yn gyfle iddi roi cynnig ar wneud ei swydd ddelfrydol - sef bod yn gyflwynydd teledu. Fodd bynnag, wrth i'r grŵp baratoi eu fideo, daw'n amlwg fod Monica'n troi'n dipyn o diva; dydy hi ddim yn gwrando ar y lleill ac mae hi eisiau cael y sylw i gyd.

Dim ond pan fo Monica'n gweld Mandy heb ei dillad crand a'i cholur y mae hi'n sylweddoli nad ydy enwogrwydd mor hawdd ag y mae'n ymddangos. Esbonia Mandy fod ei swydd yn ymwneud â gweithio fel rhan o dîm a gweithio'n galed, ac efallai y byddai'n well gan Monica wneud rhywbeth mae hi wir yn ei fwynhau - fel cerddoriaeth!

Gan sylweddoli ei chamgymeriad, mae Monica yn ymddiheuro i'w ffrindiau. Yn y cyfamser mae gweddill y grŵp yn gwylio'r fideo ac yn sylweddoli ei fod yn drychinebus. Awgryma Monica eu bod yn troi'r hyn maen nhw wedi ei ffilmio i mewn i fideo cerddoriaeth. Gydag ychydig o help gan ei ffrindiau a thrwy wneud beth mae hi wrth ei bodd yn ei wneud, mae hi'n llwyddo i achub y dydd.

Pwnc: ABCh

Testun: Perthnasau: Gwaith Tîm a Myfyrdod

Syniadau ar gyfer y dosbarth

Gallai'r stori hon gael ei defnyddio i sbarduno trafodaeth am gyfeillgarwch a sut i'w reoli, yn arbennig os ydy'r cyfeillgarwch yn un anodd ar brydiau. Gallai'r stori ysgogi trafodaeth am enwogrwydd, 'llwyddiant dros nos' a'r pwysau sy'n gysylltiedig â hyn. Gallai hefyd sbarduno trafodaethau ar ganfyddiad (perception), a beth rydyn ni'n ei feddwl am bobl sydd yn llygad y cyhoedd.

Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb

Ysgolion Cynradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:

• deimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill

• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro

• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill

a deall:

• y manteision o gael ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi

• sefyllfaoedd sy’n esgor ar wrthdaro

• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5

Gwrando

• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.

• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.

• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6

Gwrando

• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.

• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.

Cydweithio a thrafod

• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd

1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol

• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill

• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro

2. Llythrennedd

Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill

• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau

• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7

Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.

• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.

Cydweithio a thrafod

• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8

Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.

• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Cydweithio a thrafod

• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9

Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.

Cydweithio a thrafod

• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.