Rhagor o gerddi Aneirin Karadog - Bardd Hydref 2015
Cân Galwad Cynnar
Daw un cyn toriad y wawr,
Un Gerallt, ceiliog oriawr,
Daw cân ei alwad cynnar
Ym mhair y wawr, Gymru wâr.
Daw'r cennad fore sadwrn
O'r donfedd draw, daw â dwrn
Yn dwrw mawr adar mân
Drwy'r brigau'n dwrw boreugan.
Mi eilw e Dwm Elias
A'i aeliau'n weirgloddiau glas.
Daw, yn Olwen o eneth,
Y byd a'i flodau â Beth.
Duncan a'i gân fel gwennol
Ddaw'n swyn o wanwyn o'i ôl.
Wele'r hebog, Iolo, gwêl
Un Gerallt ar y gorwel.
Yn y cwt neu yn y car,
Drwy'r radio daw ei drydar;
Yn Bele Goed, yn blu gwâl,
Is ei oeswallt mae'n sisial.
Gerallt y garddwr geiriau
A dyfa'r iaith o'i dyfrhau,
Gerallt y blodeugarwr,
Tra bo gallt, Gerallt yw'r gŵr,
Gerallt nid oes rhagorach,
Mor fawr yw dy Gymru fach,
Gerallt sy'n dallt y dalltins,
Gerallt boi'r wêr, Gerallt brins!
Eifionydd o ymenydd maith,
Gerallt y deall dwywaith.
Gerallt ti yw pob gwawriad,
Y wawr o lais i euro'r wlad.
Chwedleuwyr
(i Chris Coleman ac Osian Roberts)
Mae ein diolch ninnau'n golchi'r oesoedd
Drosoch dan oedi;
O faeth rhagoriaeth Gary
Y deil ein chwedl ynoch chi.
Draig ein Darogan
Ein draig sy'n arf i'r garfan,
y ddraig goch a dodda'r gwan!
Hi yw ffwrnes sgarmes gwŷr,
hi, ehediad pêl-droedwyr.
Cei di wres cic a drosir
yn lân, fu'n hongian yn hir,
drwy ddawns iâr Biggar y bŵt.
Pêl mas. Hirbas. Cic ffwrbwt
a George North ar jarj nerthol,
rhaffa res o gyrff o'i ôl.
Yn reiat o chwaraewr,
ein battering ram, Sam, sy'n siŵr
o goncro, cipio'r cwpan;
fe'i cwyd fel y cwyd ein cân.
Cyhyrau cawr ar y cae
a ry'r ddraig ddewr i'r hogiau.
Wele o'i gwres, daw pêl gron
ar dân ar flaen traed dynion.
Y mur rhag sgorwyr a'u sgams,
ein wal, yw Ashley Williams.
Bric ar fric fe wyra e
shot rhy galed, rhwystr golie.
Yna daw'r tân drwy'r tannoy:
Hennessey i Ramsey, mae'n rhoi
gwyrth o bas i Gareth Bale
a sgoria dros y gorwel!
Bydd hogiau balch buddugol
y ddraig goch 'di haeddu'r gôl.
Â'n hiaith yn daer, chwythwn dân,
ni yw draig ein darogan.
Tasgwn, dan sang crafangau,
wreichion o'r cyrch hwn i'r cae.
Fesul Gair
Fesul gair mae dod ynghyd,
Fesul gair mae gweld y byd,
Mynna air fel tae’n eiddo i ti,
Yn air fu’n si yn dy grud.
Fesul gair cei di dafod,
Gair ar air cei di drafod,
Gweli o’u casglu yn un pair
Taw mwy na gair yw Steddfod.
Fesul gair fe gei di wên,
Fesul gair cei golled hen,
Weithiau fe gei drwy ond un gair
Holl ddifyrrwch ffair ein llên.
Fesul gair mae’i dysgu hi
Fesul gair fe ddathlwn ni
Dy antur fawr, lawn ei gobaith,
O’i threiglo’n heniaith i ti.
Pwy sy'n ddroog?
Oglau Dyl Mei drwy'r boreue. Cyri mawr,
Creu mwy o recordie
Yn griw hegar o hogie,
Â'r Genod Droog yn y dre.