Main content

Dulliau o gyfthrabeu

Dyma fersiwn gwreiddiol o’r testun wedi ei osod mewn Adobe Caslon Pro.

Dyma’r testun wedi ei osod mewn ffurfdeip sans-serif. Mae dau prif deulu o ffurfdeipiau (neu ffonts i chi a fi!) – serif a sans-serif. Mae gan ffonts serif gynffonnau bychan yn dod oddi ar bigau’r llythrennau, does gan ffonts sans-serif ddim y cynffonnau yma. Enghraifft poblogaidd o ffont serif fyddai ‘Times New Roman’ ac enghraifft poblogaidd o ffont sans-serif fyddai Helvetivca neu Arial. Mae sôn bod darllen ffontiau serif yn haws gan fod mwy o siâp i’r geiriau. Dyna pam yn aml gwelir nofelau wedi eu gosod mewn ffont serif gan fod gofyn i’r darllenwr ddarllen darnau hir o destun.

Mae sôn bod ein ymennydd yn darllen mewn ffordd gwahanol i’r hyn rydym ni’n meddwl ein bod ni’n darllen. Nid yw’r ymennydd yn darllen yr holl lythrennau mewn gair ac yna’n eu rhoi at ei gilydd i ddehongli’r gair. Yn hytrach, mae’r ymennydd yn darllen siâp geiriau. Yn yr enghraifft uchod, mae llythrennau ‘y’, ‘l’ a ‘d’ yn creu siâp penodol i’r gair. Fe welwn, wrth osod y gair mewn prif-lythrennau bod siâp y gair yn cael ei golli.

Fel yn yr enghraifft ddiwethaf, gwelwn fod siâp geiriau, sydd yn ddefnyddiol iawn wrth ddarllen, yn cael ei golli pan yn gosod testun mewn prif-lythrennau. Dyma’r testun wedi ei osod mewn prif-lythrennau. Wrth ddarllen drwy’r testun yma, efallai y gwnewch chi sylweddoli fod hi’n mynd yn anodd i ddarllen y testun erbyn y diwedd gan fod eich ymennydd yn dechrau blino ar ddehongli i’r geiriau yn y ffordd yma.

Dyma enghraifft ‘chydig bach yn geeky! Pa mor aml ydych chi’n meddwl am y bylchau rhwng llythrennau? Dydwi ddim yn sôn am y bylchau rhwng geiriau yn fan hyn ond y bylchau sydd rhwng y llythrennau. Y term am hyn yw ‘tracking’ neu efallai fydd rhai yn sôn am ‘kerning’ pan yn sôn am y bylchau yma. Fe welwch yn yr enghreifftiau yma y testun wedi ei osod gyda tracking tynn (bylchau bach rhwng y llythrennau) a tracking llac (bylchau mawr rhwng y llythrennau). Fe welwch fod siâp y gair yn gael ei golli unwaith eto ac wrth ddarllen trwy’r testun, mae’n bosib y gwnewch chi sylweddoli eich bod chi’n blino.

Dyma ‘chydig bach o internet phenomenon y bydd rhai ohonoch wedi clywed amdano efallai. Y theori yw, os yw’r llythyren gyntaf, ac y llythyren olaf o’r gair yr un fath a bod gweddill y llythrennau rhwng yr un cyntaf a’r un olaf wedi eu cymysgu fyny, yna mae dal modd i’r darllenwr ddarllen y cynnwys yn weddol hawdd.

Mae lliw yn chwarae rhan mawr yn sut rydym ni’n dehongli delweddau. Mae’r rhan fwyaf o destun rydym ni’n ei ddarllen heddiw wedi cael ei argraffu’n ddu ar bapur gwyn neu off-white. Mae sôn bod darllen yn haws pan fo llai o gyferbyniad rhwng lliw yr ysgrifen a’r cefndir. Mae llawer o nofelau yn defnyddio papur off-white i leihau’r cyferbyniad yma gan fod y darllenwr yn darllen am gyfnodau hir. Yn yr enghraifft uchod, ar y llaw arall, gallwch weld enghraifft eithafol o sut mae lliw yn gallu ei gwneud hi’n anodd i ddarllen.

Mae llawer iawn o ffonts dyslexia ar gael allan yna sy’n honni bod gosod testun yn y ffont yma yn helpu unigolion dyslexic i ddarllen. Mae mwy o wahaniaeth rhwng y llythrennau mewn ffontiau fel hyn a dyna sy’n ei gwneud nhw’n haws i’w darllen yn ôl y sôn.