Main content

Lapŵy Cyw Iâr a Pesto

Arwyddfwyd Elinor Snowsill o’r cwmni bwyd cyflym, iachus o Gaerdydd - 'Onest'.

2 Ŵy Maes (Free Range)
50g Cyw iâr wedi'i rostio a'i rwygo
1/4 pupur coch wedi'i dorri'n fân
Un tomato wedi’i sychu’n yr haul, wedi'i dorri'n fân
1 llwy bwrdd o besto gwyrdd ffres
Dewisol - caws wedi'i gratio
Halen a phupur

Dull

• Cymysgwch yr wyau ac ychwanegwch pinsied o halen a phupur.
• Tolltwch yr wy ar gridyll / pan drwm llydan, a'i ledaenu i mewn i sgwâr fel bod yr ŵy yn haenen denau.
• Rhowch y cynhywsion yn stribed i lawr canol y sgwâr.
• Plygwch ochrau’r sgwâr dros y cynhwysion fel ei fod yn edrych fel ‘wrap’!
• Gweinwch yn dwym.

Amser paratoi - 5 munud
Amser coginio - 2 munud