Yn Ysbyty Poona - Jim Parc Nest
Neithiwr, ni filwriwn dros gwsg;
gydol nos arhoswn ar ddi-hun tra suddai’r cread
gan bwyll i gynnwrf ei bwll o dywyllwch diwnïad
nes imi deimlo dy fod tithau, fy annwyl gariad,
yn rhannu’r un wyliadwriaeth nos â minnau.
Ac mewn amrantiad, darfu’r gagendor rhyngom
fel petai i alarch gorawenus rychwantu’r pellter
nes dwyn cytundeb ei gymundeb atom.
Ac fel at olau lloer neu wynder alarch, fe hudwyd
Cymru gyfan o fewn plwyf fy ngofal,
y llanw’n glaslamu ar draethau Ceredigion,
dy gwch hwylio coch â chanddo chwedl i’w chynnal.
A mynyddoedd ysblennydd Dafydd a Llewelyn,
Pumlumon, Cader Idris a chewri Eryri
wrthi’n dyrnu’n ddiderfyn yn y fagddu,
ynghyd â’r cwm glofaol na wnaf mo’i enwi
â’i lethrau wedi’u sgathru gan dai rhesog a beddi
plith draphlith ymhlith coed pîn penuchel,
lle y disgwyliet ar dy orwedd yn gwrando ar y tonnau -
twtshodd fy nwylo twym â dy ysgwyddau gwyn, penisel
- ac yna lledodd deng mil milltir o wawl dyddiau
rhyngom, pan ddaeth i’m clyw, grawc gwyllt y brain
yn llwnc llwglyd India, a’r datgeliad,
er y gall Amser hollti calonnau,
na all gwenwyn y sarff ffyrnicaf ddifa cariad.
JIM PARC NEST