Main content

Telerau ac Amodau ar gyfer Partneriaid yr Ŵyl

_______________________________

GŴYL ART THAT MADE US

Telerau ac Amodau Partneriaid y Prosiect

_______________________________

Caiff y Cytundeb hwn ei wneud

RHWNG:

(1) Y GORFFORAETH DDARLLEDU BRYDEINIG, 1 Portland Place, Llundain W1A 1AA (y “BBC”); a

(2) “Partner yr Ŵyl”.

1. DIBEN

Bydd Gŵyl Art That Made Us yn rhedeg ochr yn ochr â chyfres deledu nodedig o’r un enw, a fydd yn darlledu ar BBC Two yn gynnar yn 2022. Gan adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Civilisations, bydd Gŵyl y flwyddyn nesaf yn dathlu creadigrwydd mewn partneriaeth ag amgueddfeydd, orielau, archifdai a llyfrgelloedd ledled y wlad.

Mae Gŵyl Art That Made Us yn hanes diwylliannol newydd mawr yn Ynysoedd Prydain, gan archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth o bwys wedi helpu i siapio ein stori greadigol. Mae’r gyfres yn olrhain naratif cyffrous a dadleuol, sy’n canolbwyntio ar waith celf a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnodau cythryblus a llawn tensiwn: mudo cyson a’r goncwest yn ein hanes cynnar; trawma’r Pla Du yn yr Oesoedd Canol; cynnwrf crefyddol y Diwygiad; y Rhyfel Cartref; y Chwyldro Diwydiannol; a thwf dinasoedd a dychwelyd i’r oes wledig. Mae hefyd yn stori am arloeswyr, tarfwyr ar y drefn a gweledigaethwyr, a oedd yn ymateb i ddigwyddiadau mawr ac yn ailddiffinio ein celfyddyd a’i phosibiliadau.

Mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar wyth i ddeg gwrthrych anhygoel ac yn archwilio’r hyn a ddatgelir am drobwynt yn ein hanes. Wedi’u cymryd o orielau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd o bob cwr o’r wlad, mae rhai gweithiau’n adnabyddus ac eraill wedi cael eu hanwybyddu. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth eang o artistiaid sydd wedi’u hysbrydoli gan y gorffennol, a sylwadau a dadansoddiadau hefyd gan haneswyr a churaduron diwylliannol.

Bydd yr Ŵyl yn gwahodd amgueddfeydd, orielau, archifdai a llyfrgelloedd i drefnu digwyddiadau i sbarduno trafodaeth, ehangu dealltwriaeth a rhannu syniadau am yr hyn a olygir gan y term creadigrwydd. Mae cyfleoedd hefyd i gydweithio ymhellach â’r BBC fel y disgrifir isod. Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 1-30 mis Ebrill 2022, er gall partneriaid gynnal digwyddiadau unrhyw bryd yn ystod cyfnod darlledu’r gyfres ddechrau 2022.

Mae sael elfen i'r bartneriaeth hon, fel y disgrifir isod. Cewch ddewis cyfranogi cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch chi. Y gofyniad sylfaenol i fod yn Bartner yr Ŵyl, fodd bynnag, yw i chi gynnal o leiaf un digwyddiad yn ystod cyfnod yr Ŵyl.

2. Y BBC

  • Bydd y BBC yn darlledu cyfres deledu nodedig ar hanes creadigrwydd, sydd eisoes yn cael ei chynhyrchu
  • Bydd y BBC yn darparu crynodebau rhaglenni ar gyfer partneriaid, a rhestr o rai o’r amcanion sydd yn y gyfres, i helpu gyda chynllunio digwyddiadau
  • Bydd y BBC yn adlewyrchu digwyddiadau dethol ar ei lwyfannau
  • Bydd y BBC yn rhannu manylion archifau sydd ar gael sy’n ymwneud â chreadigrwydd, a lle bo hynny’n rhesymol, yn sicrhau bod deunydd archif ar gael i’w ddefnyddio gan randdeiliaid a phartneriaid
  • Bydd y BBC yn cyfeirio cynulleidfaoedd at restri Museum Crush
  • Bydd y BBC yn darparu brandio i bartneriaid
  • Bydd y BBC yn gweithio gyda llwyfannau digidol i ddod â’r holl gynnwys at ei gilydd mewn un lle
  • Bydd y BBC yn anfon cylchlythyrau gwybodaeth rheolaidd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bartneriaid am sut i gymryd rhan yn yr Ŵyl (e.e. pryd i ddisgwyl brandio, clipiau o gyfresi)

3. PARTNERIAID YR ŴYL

  • Drwy dderbyn y Telerau ac Amodau yn y cytundeb hwn, rydych yn cytuno i ddod yn un o Bartneriaid yr Ŵyl.
  • Byddwch yn creu digwyddiad(au) cyhoeddus wedi’u hysbrydoli gan themâu Art That Made Us, neu’n cysylltu gwaith allgymorth a digwyddiadau presennol â’r themâu, neu’n ymgysylltu ag un o’r offer digidol sydd ar gael ar gyfer y prosiect.
  • I hyrwyddo eich digwyddiad, byddwch yn ei gofrestru ar Museum Crush Culture 24, a fydd yn darparu categori pwrpasol ar gyfer y digwyddiadau hyn.
  • Byddwch yn gwneud yn siŵr bod unrhyw asedau neu gyfranwyr rydych chi’n eu defnyddio yn gallu cael eu clirio gennych chi i’w defnyddio ar deledu a radio’r BBC yn y DU ac ar-lein yn fyd-eang.
  • Byddwch yn lawrlwytho ac yn defnyddio’r brand.

4. THE EVENTS

  • Bydd eich digwyddiad yn cael ei frandio fel “Dylanwadwyd gan Art That Made Us”. Gellir defnyddio’r brandio hwn ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yn ystod cyfnod darlledu’r gyfres yn 2022.
  • Gall digwyddiadau gael eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb.
  • Bydd eich digwyddiad yn rhad ac am ddim neu’n adennill costau i’r cyhoedd. Chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau (ond os bydd y BBC yn penderfynu gosod darllediad allanol yn eich digwyddiad Chi, bydd y BBC yn gyfrifol am y costau hynny).
  • Bydd gan leoliad y digwyddiad yswiriant priodol neu sicrwydd priodol arall ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, a bydd yn cydymffurfio â'r deddfwriaethau perthnasol o ran mynediad, iechyd a diogelwch, diogelu plant a diogelu data.
  • Rhaid i bob digwyddiad gydymffurfio â COVID yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ar gyfer eich ardal chi ar adeg y digwyddiad.

5. MUSEUM CRUSH

  • Fel Partner yr Ŵyl, byddwch yn cofrestru eich digwyddiad ar wasanaeth Culture 24, Museum Crush.
  • Os nad ydych chi wedi cofrestru â chronfa ddata DDE Culture 24 yn barod, bydd angen i chi ymuno â’u rhwydwaith a chytuno ar eu Telerau Defnyddio.
  • Bydd Culture 24 yn rhoi rhestr lawn o ddigwyddiadau Art That Made Us ar eu gwefan.

6. BRANDIO

  • Bydd dolen i’r asedau brandio a chanllawiau ar sut i’w defnyddio yn cael eu hanfon atoch ar ôl i chi dderbyn y Telerau ac Amodau, ac ar ôl i chi gael eich derbyn fel un o Bartneriaid yr Ŵyl.
  • Ceir manylion am y drwydded frandio yn Atodiad I.
  • Drwy lwytho’r asedau i lawr, rydych Chi’n cytuno i lynu wrth y canllawiau brandio.
  • Dim ond yn ystod cyfnod darlledu’r gyfres y gellir defnyddio’r asedau.

7. ARCHIF

  • Bydd y BBC yn darparu mynediad at ddetholiad o asedau archif i’w defnyddio gan Bartneriaid yr Ŵyl ar thema eang Creadigrwydd. Bydd y rhain ar gael i ychwanegu at eich digwyddiadau neu eich cynnig Creadigrwydd digidol, naill ai ar bbc.co.uk neu ar eich gwefannau eich hun. Byddant ar gael i’w cynnwys o fis Rhagfyr 2021 ymlaen a byddant yn rhwym wrth delerau cyffredinol sy’n debyg i rai clipiau iPlayer.

  • Bydd y BBC yn gweithio gyda phartneriaid dethol i gynhyrchu straeon ac erthyglau penodol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan ddefnyddio cynnwys dethol o archif ac offer y BBC yn y MakerBox. Bydd syniadau ar gyfer straeon addas yn cael eu cyflwyno gan bartneriaid i’r BBC a bydd y partneriaid llwyddiannus yn gweithio gyda thîm Cynnwys a Phartneriaethau Archif y BBC i greu erthyglau a phrofiadau ar-lein i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd.

  • Os oes darn penodol o gynnwys y byddech chi’n hoffi ei ddefnyddio o archif y BBC, gallwch wneud cais amdano drwy ArchiveRequestsExternal@bbc.co.uk. Byddwn yn ymchwilio i weld a oes modd sicrhau ei fod ar gael i chi ar gyfer eich digwyddiad Gŵyl Art That Made Us. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd ar gael. Os ydych chi’n fodlon talu am glirio deunydd trydydd parti er mwyn gallu defnyddio deunydd archif, nodwch hynny yn eich e-bost. Bydd gofyn i sefydliadau drwyddedu cynnwys pwrpasol ar wahân.

Rydych yn cytuno i gyfrannu at waith ac arferion cydweithredu gyda’r BBC a’i bartneriaid eraill ar gyfer Gŵyl Art That Made Us.

_________________________________

ATODIAD I

TRWYDDED AR GYFER DEFNYDDIO BRANDIO ART THAT MADE US

1 PARTÏON
(1) Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, corfforaeth gyhoeddus sydd wedi’i hymgorffori yng nghyfreithiau Cymru a Lloegr gan y Siarter Frenhinol. Mae ei phrif swyddfa yn Broadcasting House, Portland Place, Llundain, W1A 1AA (“y BBC”); a

(2) Chi “Partner yr Ŵyl”
Sef y “Partïon” gyda’i gilydd

2 BRANDIO’R BBC
Bydd brandio Art That Made Us yn cael eu darparu gan y BBC drwy e-bost ar ôl i chi gofrestru.

3 DISGRIFIAD O’R EITEM(AU)
Y brandio i’w ddefnyddio ar bosteri, taflenni a ddeunyddiau hyrwyddo eraill ac ar-lein

4 PWRPAS YR EITEM(AU)
Hyrwyddo digwyddiadau Partner yr Ŵyl yn ystod Gŵyl Art That Made Us 1-30 mis Ebrill 2022 neu yn ystod cyfnod darlledu Art That Made Us ar BBC TWO

5 CYFNOD DEFNYDDIO
O: pan fyddwch yn derbyn y Telerau ac Amodau
Tan: 30 Mehefin 2022

6 TIRIOGAETH
Y DU (gan ddeall na fydd safleoedd Partneriaid yr Ŵyl o reidrwydd yn cael eu rhwystro’n ddaearyddol)

Mae'r BBC yn rhoi trwydded anghyfyngedig i Bartner yr Ŵyl ddefnyddio brandio Art That Made Us a ddisgrifir yn adran 2 uchod (“Brandio’r BBC”) yn unol â’r amodau canlynol:

1. Dim ond ar yr eitemau a ddisgrifir yn adran 3 y ceir defnyddio Brandio’r BBC. Mae’n rhaid defnyddio'r rhain at y diben a nodir yn adran 4 yn unig, a dim ond yn y Diriogaeth a nodir yn adran 6 y ceir eu dosbarthu (neu, os yw’n dudalen ar y rhyngrwyd, rhaid iddi fod wedi’u hanelu at y Diriogaeth honno). Mae’n rhaid i Bartneriaid ddefnyddio Brandio’r BBC yn unol â’r Canllawiau Brandio.

2. Gellir eu defnyddio fel y dangosir ar y sampl o’r eitemau a ddisgrifir yn Adran 3 yng nghyswllt defnydd Partneriaid o Frandiau y BBC.

3. Rhaid i’r gwaith celf ar gyfer unrhyw logo a ddefnyddir ar yr eitemau gael ei ddarparu gan y BBC.

4. Byddwch yn defnyddio Brandio’r BBC ar eitemau cyhoeddus yn ystod y cyfnod a ddangosir yn adran 5 uchod. Fodd bynnag, byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio Brandio’r BBC yn gynharach na’r dyddiad a nodir os cewch gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan y BBC oherwydd nad ydych Chi wedi cydymffurfio â thelerau’r drwydded hon, neu eich bod yn tarfu ar hawliau’r BBC wrth ddefnyddio Brandio’r BBC.

5. Bydd yr eitem(au) hyn yn cael eu defnyddio yn unol ag enw da’r BBC a'r Nod(au) Masnach ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Masnachu Teg y BBC ac unrhyw ganllawiau perthnasol a roddwyd i chi gan y BBC, yn ogystal ag unrhyw amodau yn y Prif Gytundeb, a’r cyfreithiau, codau ymarfer, safonau a rheoliadau perthnasol.

6. Rydych chi’n cydnabod mai’r BBC yw perchennog Brandio'r BBC, yr hawlfraint sydd ynddynt a’r ewyllys da sy'n perthyn iddynt, a’r BBC fydd yn berchen ar unrhyw fudd a gewch o ddefnyddio Brandio'r BBC. Ni fyddwch yn gwneud nac yn ceisio gwneud cais am unrhyw nod masnach mewn perthynas â Brandio’r BBC. Nid yw'r BBC yn gwarantu na fydd hawliau trydydd partïon yn gwrthdaro o fewn Brandio’r BBC yn unrhyw ran o’r Diriogaeth, a byddwch yn indemnio’r BBC am unrhyw golled iddo o ganlyniad i ddefnyddio Brandio’r BBC ac, os bydd y BBC yn gwneud hynny'n ofynnol, dylech yswirio eich hun yn erbyn yr atebolrwydd hwn.

7. Ni fyddwch yn defnyddio Brandio’r BBC mewn unrhyw ffordd neu at unrhyw ddiben gwahanol i'r hyn a nodir yn y drwydded hon, nac yn defnyddio enw’r BBC nac unrhyw un o’i nodau masnach, dim ond yn unol â hon ac unrhyw drwydded ysgrifenedig arall a roddir i chi gan y BBC.

8. Os byddwch yn dod yn ymwybodol bod unrhyw beth yn tarfu ar hawliau’r BBC yng nghyswllt Brandio’r BBC, neu'n dod yn ymwybodol o unrhyw honiad eich bod yn tarfu ar hawliau unrhyw un arall wrth eu defnyddio, byddwch yn rhoi gwybod i Bennaeth Eiddo Deallusol a Chyfreithiol Corfforaethol y BBC yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Ni fyddwch yn gwneud dim byd arall, oni bai am gynorthwyo’r BBC ym mha bynnag ffordd sy'n rhesymol mewn unrhyw gam y gallai ei gymryd yn erbyn y troseddwr neu'r hawlydd, yn ddibynnol ar yr achos.

9. Ni fyddwch yn awdurdodi unrhyw drydydd parti i ddefnyddio Brandio’r BBC nac yn neilltuo, yn trosglwyddo, yn is-drwyddedu nac yn cael gwared â’ch hawliau o dan y drwydded hon mewn unrhyw ffordd arall.

10. Mae’r drwydded hon yn nodi’r cytundeb cyfan rhwng y BBC a chi mewn perthynas â’r mater hwn, a bydd yn cael ei ddehongli yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr