Byns y grog gan Winnie James
Cynhwysion:
- 1 pwys o flawd plaen cryf
- 2 owns o siwgr man (caster)
- 1 wy wedi ei guro
- pinsiad o halen
- 3 owns o fenyn
- 3 owns o gyrains
- ½ peint o laeth cynnes
- ½ owns o furum NEU 1 paced o furum sych
- 1 llwy de o sbeis cymysg
- 1 owns o groen candi wedi ei falu NEU shafins croen dau oren

Dull:
1. Cynhesa ¼ peint o laeth gan ychwanegu ychydig o’r siwgr a’r burum a’i gymysgu.
2. Mewn powlen arall rhwbiwch y menyn a’r blawd
3. Ychwanegwch weddill y siwgr, sbeis a’r croen candi a’i gymysgu gyda’r menyn a’r blawd wedi rhwbio.
4. Gwnewch bant yn nghanol y cynhwysion sych yma, arllwyswch y gymysgedd llaeth cynnes i’r pant gan ychwanegu hefyd yr wy wedi ei guro.
5. Cymysgwch y cyfan yn araf er mwyn creu toes meddal
6. Tyliwnch y toes yn dda
7. Rhowch lian i orwedd dros wyneb y bowlen ble mae’r toes a’i adael mewn lle cynnes i orffwys nes bydd y toes wedi dyblu mewn maint.
8. Torrwch y toes yn ddarnau nes bydd gyda chi tua 12 bynsen a’u gosod ar dun pobi wedi ei iro.
9. Gadewch y toes i orffwys ymhellach nes fydd y byns wedi dyblu mewn maint eto
10. Tra mae’r byns yn gorffwys cymysgwch 2 owns o flawd plaen gydag ychydig o ddwr nes mae’n creu past, yna ei arllwys i fewn i gwdyn pibo gyda thrwyn sydd rhyw ¼ modfedd o drwch.
11. Pibwch groes ar bob bynsen.
12. Pan bydd y ffwrn wedi cynhesu i 200 gradd selsiws rhowch y byns i fewn yn y canol a’u gadael yno i bobi am 10 i 15 munud.
13. Gyda’r llaeth sy’n weddill – twymwch nes mae’n mud ferwi ac ychwanegwch ychydig o siwgr (tua llwy fwrdd)
14. Pan mae'r byns wedi coginio, brwsiwch y gymysgedd yma ar y top i greu sglein.
15. Rhowch y byns i un ochr i oeri – neu bwytewch yn syth.