Main content

Nos da nostalgia

Penillion

Dwi ‘di dilyn y llwybr lawr i’r dyffryn

Dros gerrig afon, trwy gae yn llawn o ŷd,

Dwi ‘di dringo at y tŷ sydd ar y mynydd

Dydy o’n ddim ond adfail mud.

Dwi ‘di sefyll ar blatfform Stesion Strata,

Hawlio tocyn ar y trên i Afon-wen,

Dwi ‘di teithio yng nghwmni y sgwarnogod

Ond y cledrau ddaeth i ben.

Dwi ‘di chwilio am Ethiopia Newydd,

Ymlaen mae Canaan, dyna oedd fy nghri,

Ond o noddfa rhyw harbwr diogel

Methu symud ‘mlaen wnes i.

Cytgan

Nos da nostalgia

a’r breuddwyd roc a rôl,

da bo’ i Westy Cymru,

ddaw Gloria ddim yn ôl.

Nos da nostalgia,

adiós i’r Mardi Gras,

mae’r fflachlwch wedi’i luchio

felly hwyl fawr heulwen ha’.

Middle 8

Wedi rhedeg draw i Baris

Wedi troedio Rue St Michel

Wedi cyrchu Monte Carlo

Daeth yn amser dweud ffarwél.