Main content

Byrgyr Madarch

Cynhwysion:

50g o fadarch porcini wedi sychu

1 llwy ffrwdd o vegemite

225g o gnau Ffrengig wedi rhostio a’u torri’n ddarnau bach

1 llwy fach o olew olewydd

1 nionyn

1 ewin o arlleg

2 shibwns (wedi sleisio)

250g o friwsion bara gwenith cyflawn

1 llwy ffwrdd o bersli a rhosmari ffres

1 wy

Caws haloumi

Tomatos mawr ffres

Dail salad ffres

Siytni betys (un cartref os yn bosib, ond mae rhai blasus i gael o’r siop hefyd)

Halen a pupur

Olew olewydd

Offer:

Powlen,

Tegell (a dwr wedi berwi)

Prosesydd bwyd gyda atodiad llafn

Padell ffrio

Dull:

1. Rhowch y madarch porcini mewn bowlen gyda'r vegemite a digon o dŵr poeth i orchuddio y madarch. Gadewch y cyfan i socian am ddeg munud.

2. Ffriwch y nionyn a'r garlleg mewn olew olewydd nes yn feddal ac yn gweld drwy.

3. 'Draeniwch' y stoc oddi wrth y madarch, a'i gadw mewn jwg tan nes 'mlaen.

4. Rhowch y madarch yn y prosesydd bwyd a'u blitzio nes yn ddarnau man.

5. Ychwanegwch gweddill y cynhwysion (ar wahân i'r stoc) a gadael i'r prosesydd droelli ychydig o weithiau yn ddigon i gymysgu'r cynhwysion.

6. Ychwanegwch hefyd yr halen a pupur, y persli, rhosmari, a'r shibwns a'u 'blitzio' cwpwl o weithia eto.

7. Rhaid tywallt y stoc madarch i fewn yn raddol nes bod y gymysgedd yn dal at ei gilydd

8. Siapiwch y gymysgedd lan yn 8 byrgyr a rhowch rhain yn yr oergell am 20 munud i'w gosod.

9. Cynheswch ychydig o olew olewydd mewn padell a ffriwch y byrger ar wres isel hyd nes wedi ei goginio drwyddo, tua 15 - 20 o munud

10. Ar ôl tua 10 munud sleisiwch yr haloumi a'r tomatos a'u ffrio mewn padell sych neu radell ar wres uchel. Byddwch yn ofalus rhag eu llosgi!

11. Gosodwch y byrger ar blât gyda'r siytni betys, tomatos a'r caws haluomi ar ei ben. Gweinwch gyda dail salad ffres a mwynhewch!