BBC Cymru yn Creu
Gŵyl i brofi rhywbeth, gwneud rhywbeth – Cer i Greu!
Yn ystod Mai 11-19 2019 mae BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid eraill yn cyd-weithio ar ŵyl o ddigwyddiadau i ddathlu Cymru fel gwlad greadigol – a dyma wahoddiad i chi ymuno yn yr hwyl.
Rydym yn hyrwyddo Cymru fel lle i gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol, a gwlad sy’n caru bod yn greadigol. Dyma’ch cyfle chi i wneud rhywbeth, creu rhywbeth a bod yn greadigol.
Beth sy'n Digwydd?
O baentio i grochenwaith; o ddawnsio i dynnu llun; o weu i waith nodwydd: mae sefydliadau celfyddydol, grwpiau cymunedol a chymdeithasau o bob maint yn cynnig gweithdai blasu a dosbarthiadau i roi'r cyfle gorau i bawb fod yn greadigol.
Rhoi eich digwyddiad ar y map
Os ydych chi’n sefydliad a hoffai gymryd rhan yn yr ŵyl, boed yn ddigwyddiad rydych yn ei drefnu fel arfer neu’n rhywbeth sy’n cael ei drefnu’n arbennig, gadewch i ni wybod beth sydd gennych ar y gweill ac anfonwn wybodaeth atoch. Ydych chi'n rhedeg grŵp neu gymdeithas greadigol? Byddem wrth ein bodd yn eich cael yn rhan o'r ŵyl.
- Trefnwch ddigwyddiad am ddim neu un adfer costau rhwng 11-19 o Mai.
- Llwythwch y manylion ar fap rhyngweithiol Cer i Greu.
Mwy o wybodaeth
![]()
Beth sy’ mlaen?
Chwiliwch am weithgareddau yn eich hardal. YMWRTHODIAD: Nid yw’r gweithgareddau wedi eu trefnu gan y BBC, oni nodir yn wahanol. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am gywirdeb y wybodaeth sydd wedi ei ddarparu. Os ydych o dan 18, gofynnwch i riant neu warchodwr cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd.
![]()
Get Creative, 2019
Read page in English.
Uchafbwyntiau Cer i Greu yng Nghymru

Welsh rugby legends Get Creative with the Forget-me-not Chorus
JPR Williams and JJ Williams sing with choir for people with dementia.

Penyfan yn 2017
Fe gafodd llethrau Pen y Fan eu trawsffurfio, fel rhan o brosiect Calon Cymru.
















