Main content

Cawl Pwmpen Dorothy Williams

Gan ei bod yn agosáu at Calan Gaeaf mae Dorothy yn rhannu rysáit Cawl Pwmpen.

Rysait Cawl Pwmpen Dorothy Williams

Cawl Pwmpen

Poethwch ddwy lwy fawr o olew olewydd mewn sosban go fawr, ac ychwanegwch un winwnsyn weddol o faint - wedi ei dorri'n fan. Coginiwch nes ei fod yn feddal.

Ychwanegwch bwys a chwarter (700 gram) o gnawd y bwmpen - wedi ei dorri'n giwbiau . ***PEIDIWCH A DEFNYDDIO'R HADAU***

Ychwanegwch 500ml - bron I beint o stoc llysiau, a bewrch y gymysgedd am ddeng munud nes bod y bwmpen yn feddal.

Yna bydd angen blendio'r cyfan a'I aildwymo - gan ychwanegu pupur du.

Mae modd gweini'r cawl drwy ei arllwys yn ol I mewn I'r bwmpen OS OES YNA O LEIA HANNER MODFEDD O GNAWD (FEL WAL) AR OL.

Neu gweiniwch mewn powlen - ac ychwanegu iogwrt braster isel yn ei ganol.

Mae hwn yn cyfateb I un o'r pump y dydd (llysiau / ffrwythau) ac yn isel o ran braster.

*Os oes peth o gnawd y bwmpen ar ol - mae modd ei rostio efo sinsir a garlleg. Bydd rhain yn tynnu'r blas gorau o'r bwmpen.*